Mae Plaid Cymru wedi galw am gamau ar unwaith i roi adnoddau naturiol Cymru yn nwylo Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ôl Hywel Williams, sy’n llefarydd ar ynni i’r Blaid, dylai hynny gynnwys sicrhau bod Y Swyddfa Gwasanaethau Dwr, Ofwat, yr un mor atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ag y mae i San Steffan, ac i Gymru gael pwerau cynllunio llawn dros ynni a dŵr.

Mae’r AS yn dadlau bod y sefyllfa bresennol yn golygu nad oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw ddylanwad arwyddocaol dros brosiectau ynni mawr neu bolisïau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol y wlad.

Synnwyr gweinyddol

Yn ôl Hywel Williams, fe fyddai perchnogaeth yn gwneud synnwyr gweinyddol ac yn gyfle enfawr i greu swyddi, i ddatblygu’r economi, gwarchod yr amgylchedd a chynhyrchu refeniw ar gyfer Llywodraeth Cymru.

“Mae cyfrifoldeb ar gyfer cynhyrchu ynni wedi bod yn llawer mwy datganoledig yn yr Alban nag yng Nghymru – ac mae Cymru yn haeddu’r un parch,” meddai.

“Gallai hyn fod yn gyfle enfawr i Lywodraeth Cymru, byddai rheolaeth a pherchnogaeth dros brosiectau o’r fath yn y pendraw yn galluogi Cymru i greu swyddi s yng Nghymru.”

Llun: Argae Caban Coch yng Nghwm Elan (Colin Price – CCA2.0)