Mae ymgais Plaid Cymru a’r SNP i atal y cynnydd mewn Treth ar Werth wedi methu ar ôl pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin.
Fe gafodd cynnig y pleidiau ei wrthod gan 316 o bleidleisiau i 21 – mwyafrif o 295 i’r Llywodraeth.
Dywedodd Ysgrifennydd y Trysorlys, David Gauke, nad oes modd osgoi’r cynnydd ar ôl i’r llywodraeth etifeddu’r diffyg mwyaf erioed gan y llywodraeth Lafur cynt.
Fe rybuddiodd Stewart Hosie, llefarydd ar ran yr SNP – Plaid Genedlaethol yr Alban – y byddai’r penderfyniad yma’n peryglu swyddi ac yn cynyddu prisiau ar adeg pan oedd Prydain yn dechrau cryfhau yn dilyn y dirwasgiad.
Roedd y llywodraeth hefyd wedi wynebu cynnig arall, gan rai ASau mainc gefn o blith y Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd yn galw ar gyfyngu Treth ar Werth i 18% yn lle 20%.
Y tro hwnnw, fe bleidleisiodd ASau 321 i 246 o blaid y cynnydd llawn – mwyafrif o 75 i’r llywodraeth.