Mae disgwyl y bydd un o Erlynwyr y Goron yn cael ei anfon i garchar heddiw ar ôl derbyn breib i atal achos llys.
Fe fydd Sarfraz Ibrahim, 51 oed, o Gyncoed, Caerdydd, yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar ôl pledio’n euog i’r cyhuddiadau’n ei erbyn.
Ac yntau ar y pryd yn bennaeth ar adran achosion Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Ngwent, roedd Sarfraz Ibrahim wedi derbyn llwgrwobr o £20,000 er mwyn atal achos rhag cyrraedd y llys.
Y diwrnod cyn yr oedd ei achos i fod i ddechrau, fe blediodd Sarfraz Ibrahim yn euog o lygredd, o gamymddwym mewn swydd gyhoeddus ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Llun (Gwifren PA)