Roedd y cyn Brif Weinidog Tony Blair yn ystyried fod ei olynydd, Gordon Brown, yn “wallgo, yn ddrwg a pheryglus” … yn ôl un o brif ymgynghorwyr y ddau, Peter Mandelson.
Yn y bennod ddiweddara’ o’i hunangofiant ym mhapur y Times, mae’r cyn Ysgrifennydd Busnes yn disgrifio cyfarfodydd “bygythiol” a honiad gan Tony Blair fod ei hen ffrind yn ymddwyn “fel un o’r mafia”.
Ond mae’r Arglwydd Mandelson yn cydnabod hefyd bod Tony Blair wedi torri ei addewid i sefyll o’r neilltu – roedd wedi addo peidio ag ymladd yn etholiad 2007 ond fe newidiodd ei feddwl.
Roedd Peter Mandelson ac eraill hefyd wedi cynllwynio i geisio torri grym Gordon Borwn trwy chwalu’r Trysorlys tra bod Tony Blair wedi ystyried ei symud i’r Swyddfa Dramor, er mwyn torri ei afael ar adrannau a gweinidogion eraill.
Yn ôl un dadansoddiad gan Tony Blair, roedd Brown yn “llawn gwendid, yn ddi-bersbectif a rhywfaint o baranoia o’i gwmpas”.
Llun (Gwifren PA)