Fe gafwyd noson arall o derfysg mewn rhannau o Ogledd Belffast neithiwr, ond doedd y trais ddim cynddrwg ag yn y ddwy noson gynt.
Mae arweinwyr gwleidyddol o ddwy ochr y gymuned wedi condemnio’r ymladd, syn cael ei feio ar weriniaethwyr anfoddog sy’n ceisio tanseilio’r broses heddwch.
Fe fu’n rhaid i heddlu danio canon dŵr i wasgaru criwiau o ddynion ifanc oedd yn taflu cerrig a bomiau tân.
Unwaith eto, roedd y rhan fwya’ o’r helynt yn ardal yr Ardoyne, ond fe lwyddodd yr heddlu i atal trais mewn ardaloedd eraill sy’n enwog am wrthdaro sectyddol, megis y Short Strand a’r Lower Ormeau.
‘Plant yn cymryd rhan’
Yn ôl arweinwyr yr heddlu, roedd plant cyn ieuenged ag 8 oed ymhlith y gangiau a oedd hefyd yn cynnwys elfen o bobol a oedd wedi bod yn yfed ac yn cymryd rhan ‘o ran hwyl’.
Bellach, fe ddaeth hi’n amlwg bod mwy nag 80 o blismyn wedi cael eu hanafu yn y trais sydd wedi codi yn sgil Gorymdeithiau’r Urdd Oren ar Orffennaf 12. Mae’r rheiny’n dathlu buddugoliaeth brenin Protestannaidd Lloegr tros fyddin o Wyddelod Pabyddol yn 1690.
Yn un o’r digwyddiadau gwaetha’, fe gafodd plismones ei hanafu wedi iddi gael ei tharo gan floc o goncrid ac fe ddaeth un gang yn agos at atal y tren rhwng Dulyn a Belffast.
Llun: Car yn llosgi neithiwr (Gwifren PA)