Dyw Llywodraeth y Cynulliad ddim wedi llwyddo gyda’u haddewid i wella holl adeiladau ysgolion Cymru, meddai’r Archwilydd Cyffredinol.

Er bod gwario sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwetha’ wedi gwella’r amgylchiadau i lawer o athrawon a disgyblion, mae adroddiad newydd yn dweud bod llawer o’r adeiladau’n parhau mewn cyflwr gwael.

Diffyg buddsoddi yn ystod yr 1980au a’r 1990au sy’n cael y bai ond roedd gwendidau yn y rhaglen wario hefyd, meddai’r Archwilydd dros dro, Gillian Body.

Mae’n dweud nad oedd digon o arweiniad wedi’i roi i awdurdodau lleol i ddweud yn union pa welliannau oedd eisiau’u gwneud.

Addewid

Yn 2003, roedd y Llywodraeth yng Nghaerdydd wedi addo gwella cyflwr yr holl adeiladau i’w gwneud yn “addas at eu pwrpas” a gwneud hynny erbyn 2010.

Ddoe, fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai £144.8 miliwn arall yn cael eu gwario yn y maes – gan ychwanagu at bron £300 miliwn sydd wedi eu rhoi ystod y 18 mis diwetha’.

Sylwadau’r Archwilydd

“Mae llawer o waith wedi mynd at drio cael adeiladau ysgol yng Nghymru i gyflwr iawn,” meddai Gillian Body. “Mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi elwa o gael amgylchedd gweithio llawer gwell.

“Fodd bynnag, fe fu gwendidau wrth reoli a gwerthuso’r rhaglen gyfalaf ar gyfer ysgolion ac mae llawer o adeiladau yn parhau mewn cyflwr gwael.”

Llun: Ysgol newydd yn ardal Conwy