Mae’r Aelod Cynulliad, Eleanor Burnham, yn credu bod angen gwell strategaeth ar Lywodraeth y Cynulliad yn dilyn eu penderfyniad i roi arian i ŵyl gerddorol.
Mae penderfyniadau am pa fudiadau celfyddydol sy’n derbyn arian yn cael ei wneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad fod £250,000 yn cael ei roi i Ŵyl y Faenol ym Mangor.
Fe ddaw’r cyhoeddiad ar ôl i geisiadau sawl mudiad celfyddydol cael eu gwrthod yr wythnos diwethaf, gan gynnwys Eisteddfod Llangollen, oherwydd toriadau.
Ond mae’r penderfyniad i roi arian i Ŵyl y Faenol wedi codi cwestiynau ym Mae Caerdydd.
Ble mae’r strategaeth?
“Mae’r penderfyniad yma’n sioc a siom i’r rhai hynny sydd wedi gweithio’n galed i fynd drwy’r broses hir a cholli allan,” meddai Eleanor Burnham.
“Ble mae’r strategaeth? Un funud mae’r llywodraeth yn dweud nad oes arian ar gael a’r funud nesaf, mae arian ar gael i un ŵyl.”
Bydd Gŵyl y Faenol, sy’n cael ei threfnu gan Bryn Terfel, yn derbyn yr arian dros y dair blynedd nesaf.
Roedd yr ŵyl wedi cael ei chynnal am naw mlynedd yn olynol tan 2008, ond ni chafodd ei chynnal llynedd oherwydd problemau ariannol.
Llun : Bryn Terfel