Mae Ford wedi gwerthu un arall o’i is-gwmnïau i gwmni o Asia.
Cadarnhawyd heddiw y bydd Ceir Volvo yn cael ei werthu i gwmni Geely o China am £1.2 biliwn.
Mae Ford wedi bod yn ceisio gwerthu ei is-gwmni Swedaidd Volvo ers 2008 wrth geisio gwneud elw yn dilyn colledion anferth yn sgil cwymp y farchnad geir yn ystod y dirywiad economaidd rhyngwladol.
Mae Volvo wedi bod yn golled fawr i Ford, ynghyd â Jaguar a Land Rover a werthwyd i gwmni o India, Tata Motors, yn 2008.
Mae Geely wedi dweud y bydd yn gwario £596 miliwn i ehangu cynhyrchu cerbydau Volvo er mwyn i’r brand wneud elw eto.
Rhoi hwb
Mae’n debyg y bydd y cytundeb yn rhoi hwb i fasnach Geely yn China lle mae llawer o alw am geir tramor.
Bydd hefyd yn gallu ymuno â’r farchnad Ewropeaidd am y tro cyntaf.
Cwmni preifat yw Geely – sy’n golygu “lwcus” – a ddatblygodd heb fawr o gymorth gan lywodraeth gomiwnyddol China.
Ond mae wedi ymuno mewn partneriaeth â chwmni buddsoddi Daqing, sy’n berchen i wladwriaeth China, er mwyn sicrhau’r cytundeb yma.
Llun : Volvo ( o wefan y cwmni)