Fe fydd capten y Gweilch, Ryan Jones yn ffit i ddechrau paratoi ar gyfer y tymor newydd ar ôl i sgan ddatgelu nad oedd wedi dioddef niwed difrifol i’w goes.
Cafodd Jones ei anafu yn gynnar yn yr ail brawf yn erbyn Seland Newydd yn Hamilton fis diwethaf.
Ond mae staff meddygol y Gweilch wedi rhoi’r hawl iddo ddechrau ymarfer gyda gweddill y chwaraewyr ym mis Awst.
“Fe gafodd Ryan ergyd yw goes. Fe aeth y goes ychydig yn anystwyth wrth hedfan adref, ond does dim angen poeni yn ormodol,” meddai ffisiotherapydd y Gweilch, Chris Towers.
“Fe gafodd sgan er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd niwed pellach fel anaf i’w gymal. Fe fydd yn cael triniaeth yr wythnos yma ac fe dyllai wella o fewn y 10 i 12 diwrnod nesaf.”
“Felly bydd yn gallu chwarae rhan lawn wrth i’r tîm baratoi ar gyfer y tymor newydd gyda gweddill y chwaraewyr rhyngwladol yn dilyn eu hoe dros yr haf,” ychwanegodd Chris Towers.