Mae Caerlŷr wedi cadarnhau mai Paulo Sousa yw rheolwr newydd y clwb.

Ddechrau’r wythnos, fe gyhoeddodd Sousa ei fod yn gadael Abertawe er mwyn cynnal trafodaethau gyda Chaerlŷr a oedd yn chwilio am olynydd i Nigel Pearson.

“Rwyf wrth fy modd i fod yma, mae’n glwb gwych gyda chefnogwyr arbennig a hanes cyfoethog- rwy’n edrych ‘mlaen i’r her,” meddai rheolwr newydd Caerlŷr.

“Mae gan y clwb stadiwm ardderchog a chyfleusterau gwych ac rwy’n edrych ‘mlaen i weithio gyda’r chwaraewyr,” ychwanegodd Sousa.

Mae cadeirydd Caerlŷr, Milan Mandaric, yn dweud ei fod wrth ei fodd wrth benodi rheolwr o safon Sousa.

“Mae gan Paulo enw da fel chwaraewr a rheolwr ac rwy’n credu mai ef yw’r person fydd yn symud y clwb ‘mlaen,” meddai Milan Mandaric.

“Rwy’n edmygu ei steil o bêl droed ac rwy’n siŵr y bydd y cefnogwyr yn edrych ‘mlaen i’r tymor newydd,” ychwanegodd y cadeirydd.