Mi fydd pensiynau’r sector cyhoeddus werth cannoedd o bunnoedd yn llai’r flwyddyn yn sgil y newidiadau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb frys Llywodraeth Prydain, meddai’r TUC.

Mae’r undeb yn cyfeirio at fwriad y Llywodraeth i seilio cynnydd blynyddol pensiynau i gyd-fynd â chwyddiant â’r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) yn hytrach na’r mynegai prisiau manwerthu (RPI).

Gan fod y CPI yn nodweddiadol is na’r RPI meddai’r TUC, bydd cynnydd blynyddol pensiynau yn gostwng, gan olygu colled o filoedd o bunnoedd i bobol dros gyfnod eu hymddeoliad.

Ond mae Llywodraeth glymbleidiol Prydain yn honni fod y CPI yn fesur mwy addas o chwyddiant ar gyfer mesur y cynnydd blynyddol mewn pensiynau.

Mae nhw’n dweud ei fod yn hepgor costau morgeisi, ac mae pensiynwyr yn llai tebygol o gael y fath gostau o’i gymharu â phobl iau.