Mae teyrngedau yn cael eu talu ar ol i ddyn 24 oed gael ei ddarganfod yn farw mewn chwarel ger Llanberis ddoe.

Cafodd corff Emyr Williams o Benygroes ger Caernarfon ei ddarganfod yn chwarel Glyn Rhonwy gan dîm achub mynydd.

Roedd yn gweithio i Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd, ac mae ei bennaeth wedi rhoi teyrnged iddo.

“Yr ydym oll fel cydweithwyr agos i Emyr wedi ein syfrdanu o glywed am ei farwolaeth sydyn a chwbl annisgwyl,” dywedodd Gwyn Morris Jones.

“Mae’r staff yn hynod drist o golli cyfaill mor weithgar, brwdfrydig a dymunol.

“Mae yn sioc enfawr i golli rhywun mor ifanc a oedd yn dangos cymaint o addewid. Yr ydym fel adran wedi colli cydweithiwr a chyfaill hynod boblogaidd.

“Yr ydym oll yn estyn ein cydymdeimlad i’r teulu ar hyn o bryd.”

Pêl-droed

Roedd Emyr Williams yn aelod o dîm pêl droed Llanllyfni, ac mae cadeirydd y clwb hefyd wedi rhoi teyrnged iddo.

Dywedodd Meic Davies wrth bapur newydd y Daily Post fod Emyr Williams yn fachgen tawel, cwrtais a phoblogaidd, ac yn bêl droediwr da iawn, ac y bydd yn cael ei golli.

Roedd wedi chwarae i’r tîm ers 2006 ar y chwith yn y cefn neu ar y chwith yng nghanol cae. Ac roedd yn rhan o’r tîm wnaeth ennill Cynghrair Gwynedd 2007/08.

Ar goll

Mae’n debyg ei fod wedi mynd ar goll brynhawn ddydd Llun, a bod ei gar wedi cael ei ddarganfod yn ardal Llanberis.

Fe aeth timoedd achub â chŵn i chwilio amdano, a darganfuwyd ei gorff tuag amser cinio ddydd Mawrth.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n credu fod y farwolaeth yn un amheus.