Mae heddlu arfog yn dal i chwilio am Raoul Moat mewn ardal wledig o gwmpas pentref Rothbury, yn Sir Northumberland.
Roedden nhw wedi atal pobol rhag teithio i mewn neu allan oddi yno ddoe, ac roedd heddlu arfog wedi gwarchod ysgolion; ond mae gan bobol fwy o ryddid i symud erbyn hyn.
Mae’n ymddangos fod y cyn fownsar 37 oed yn adnabod yr ardal yn dda ar ôl treulio llawer o amser yno ar benwythnosau flynyddoedd yn ôl.
Yn ôl cyn gariad iddo, roedd y ddau’n arfer mynd i wersylla a physgota yn yr ardal.
Roedd yn adnabod y coed a’r gelltydd fel cefn ei law yn ôl Yvette Foreman, 35. “Dwi’n credu y gallai guddio yno am ddyddiau.”
Roedd yr heddlu wedi dechrau chwilio’r ardal ar ôl i gar oedd yn cael ei gysylltu â Raoul Moat gael ei ddarganfod yno.
Cafodd dau ddyn eu harestio ddoe hefyd. Roedd yr heddlu’n credu i ddechrau eu bod wedi cael eu herwgipio gan Raoul Moat, ond fe gawson nhw eu harestio’n ddiweddarach am gynllunio i lofruddio.
Saethu
Yr honiad yw bod Raoul Moat wedi anafu ei cyn gariad, Samantha Stobbart, 22, ac wedi lladd ei chariad Chris Brown, 29.
Roedd wedi eu saethu yn Gateshead yn gynnar ddydd Sadwrn, brin ddiwrnod ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.
Yr honiad yw ei fod wedyn wedi saethu ac anafu heddwas, David Rathbone, 42, yn Newcastle ddydd Sul.
Llythyr
Mewn llythyr, mae Raoul Moat wedi bygwth yr heddlu ac wedi sôn am ddicter yn erbyn unigolion eraill.
Roedd wedi cael ei arestio 12 o weithiau yn y gorffennol, ond dim ond wedi ei gael yn euog unwaith. Roedd wedi treulio 18 wythnos yn y carchar am ymosod ar blentyn, a chafodd ei ryddhau ddydd Iau diwethaf.
Mae honiadau ei fod wedi bygwth anafu ei gyn gariad, a bod swyddogion carchar Durham wedi rhoi gwybod i Heddlu Northumberland am hyn.
Llun: Heddlu’n chwilio yn ardal Rothbury (Gwifren PA)