Fe allai toriadau gwario beryglu cynllun i gladdu gwastraff niwclear peryglus, meddai cyn bennaeth Atomfa Trawsfynydd.
Alun Ellis sydd bellach yn gyfrifol am y cynllun claddu gwerth £4 biliwn ar ran yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.
Fe fyddai’r toriadau gwaetha’ sy’n cael eu crybwyll – o hyd at 40% mewn rhai adrannau – yn codi amheuon am ddyfodol y cynllun, meddai.
“Os bydd y toriadau mor chwyrn â hynny, mi fyddai i bob pwrpas yn golygu gohirio’r cynllun,” meddai.
Roedd Alun Ellis yn cyhoeddi manylion am y cynllun sy’n golygu claddu gwastraff 1,000 o fetrau tan ddaear a’i gadw yno am filiwn o flynyddoedd.
Dechrau yn 2025
Y bwriad oedd dechrau adeiladu’r cyfleusterau yn 2025 gan ddechrau’r claddu yn 2040.
Problem arall i’r awdurdod yw bod angen dod o hyd i ardal sy’n fodlon derbyn y gwastraff.
Hyd yn hyn, dim ond dau gyngor lleol yn Cumbria sydd wedi dangos diddordeb, er y bydd taliadau ariannol yn cael eu cynnig.
Trawsfynydd oedd un o’r gorsafoedd niwclear cynta’ i gau ac mae’n cael ei dadgomisiynu ar hyn o bryd.