Mae’r Llywodraeth wedi cael eu cyhuddo o dorri hawliau gweision sifil a cheisio arbed arian wrth eu sacio.

Roedd gweinidogion wedi “gweithredu ar y slei” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan trwy gyhoeddi newid mewn taliadau diswyddo ddoe.

Ac yn ôl Elfyn Llwyd, fe allai’r toriadau mewn iawndal diswyddo daro Cymru’n arbennig o galed.

Datganiad

Roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r newidiadau trwy ddatganiad ar bapur yn hytrach na datganiad yn y Senedd ac mae’n golygu mai dim ond gwerth blwyddyn neu 15 mis o gyflog fydd uchafswm yr iawndal sydd ar gael.

Mae hynny’n llawer salach na’r trefniadau ar hyn o bryd a thua hanner y swm oedd wedi ei gynnig gan y Llywodraeth Lafur wrth iddyn nhw geisio diwygio’r drefn.

Bryd hynny, roedd undeb y PCS wedi ennill achos llys i atal y newid – ddoe, roedd y Llywodraeth yn beio’r undeb am eu gorfodi i dorri’r taliadau.

Fe fydd rhaid i’r Llywodraeth gael deddf i wneud y newidiadau ac maen nhw’n dweud eu bod eisiau cytundeb gyda’r undebau.

‘Torri’n rhad’

Ond roedd Elfyn Llwyd yn eu cyhuddo o geisio torri swyddi’n rhad.

“Mae gweision sifil yn gweithio’n galed a dyw’r mwyafrif llethol ddim ymhlith y rhai sy’n cael eu talu orau yn eu cymunedau,” meddai. “Mewn rhai rhannau o Gymru, swyddi’r gwasanaeth sifil yw’r unig swyddi sicr yn yr ardal.”

Mae Elfyn Llwyd hefyd wedi codi ofnau ar ôl awgrymiadau yn y wasg y gallai cyflogau gweision sifil amrywio o ardal i ardal – fe allai hynny olygu bod staff yng Nghymru yn cael llai am wneud yr un gwaith â chydweithwyr mewn llefydd eraill.