Mae pryder am allu staff ym mhorthladd Caergybi i warchod rhag mewnfudo anghyfreithlon.

Mae’r adroddiad cynta’ erioed i waith yr Asiantaeth Ffiniau yng Nghymru a Gorllewin Lloegr yn dweud bod angen ail ystyried lefelau’r risg yno.

Yn ôl cyn Brif Gwnstabl, John Vine, does dim digon o staff yno, er bod Caergybi’n cael ei chydnabod yn borthladd lle mae bygythiad o fewnfudo anghyfreithlon.

Doedd dim trefniadau parhaol i reoli mewnfudo, meddai, a dim ond digon o swyddogion i gynnal pump allan o 21 shifft.

Dim rhwystr

Rhan o’r broblem yw bod Cymru’n rhan o Ardal Deithio Gyffredin – sy’n cynnwys gwledydd Prydain, Iwerddon ac Ynys Manaw – lle mae gan bobol hawl i deithio’n heb rwystr.

Problem arall sy’n cael ei nodi yng Nghaergybi yw diffyg adeiladau addas i’r swyddogion mewnfudo – yn ôl yr adroddiad, mae yna broblemau iechyd a diogelwch yno ac mae angen gweithredu ar unwaith.

Roedd yna bryder hefyd nad oedd unrhyw drefniadau i reoli mewnfudo yn rhai o borthladdoedd llai’r ardal.

Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn canmol y trefniadau ym maes awyr Caerdydd er ei fod yn nodi bod un bwlch yn nifer y staff sy’n casglu gwybodaeth am y peryg o fewnfudo anghyfreithlon.

Llun (Awdurdod y Porthladd)