Mae pedwar o Gymry wedi cael eu dewis ar gyfer tîm Prydain a Gogledd Iwerddon fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Barcelona ar ddiwedd y mis.
Bydd David Greene a Rhys Williams yn cystadlu yn erbyn ei gilydd wrth iddynt gynrychioli Prydain yn y 400m dros y clwydi.
Mae Christian Malcolm yn dychwelyd i’r tîm ac fe fydd yn cystadlu yn y 200m a’r ras gyfnewid 4x100m yn dilyn buddugoliaeth yn y 100m yn nhreialon Prydain a llwyddiant yn y Swistir mewn ras 200m penwythnos diwethaf.
Mae Elaine O’Neill wedi cael ei dewis ar gyfer tîm menywod Prydain ac fe fydd yn cystadlu yn y ras gyfnewid 4x100m yn dilyn gorffen yn ail ac yn drydydd mewn treialon diweddar.
Bydd y Bencampwriaeth Ewropeaidd ymlaen rhwng 27 Gorffennaf a 1
Awst.