Mae heddlu arfog wedi bod yn chwilio am Raoul Moat mewn ardal wledig yng ngogledd Lloegr.

Maen nhw’n canolbwyntio ar ardal ger pentref Rothbury, yn Sir Northumberland, ar ôl darganfod car Lexus du oedd wedi cael ei gysylltu â’r cyn fownsar 37 oed sy’n cael ei amau o saethu tri o bobol ger Newcastle dros y penwythnos.

Roedd yr heddlu wedi amgylchynu a chwilio drwy hen adeiladau fferm nad oedd yn cael eu defnyddio yn yr ardal yn gynharach heddiw.

Ond er na ddaethon nhw o hyd i Raoul Moat, maen nhw wedi arestio dau ddyn arall.

Roedd amheuaeth fod Raoul Moat wedi herwgipio dau ddyn ddydd Sul, ond mae cadarnhad erbyn hyn fod y ddau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllunio i lofruddio.

Cawsant eu harestio ar ôl cael eu gweld yn cerdded wrth ymyl y ffordd yn agos i Rothbury.

Mae’r heddlu wedi gwrthod rhoi mwy o fanylion amdanyn nhw ond roedden nhw wedi gofyn i’r cyfryngau beidio sôn am yr herwgipio honedig tan nawr.

Beio’r heddlu

Mae wedi dod i’r amlwg fod gan Raoul Moat fendeta yn erbyn yr heddlu.

Roedd wedi ‘sgrifennu llythyr dros 40 tudalen o hyd i lu Northumberland, gan ddweud ynddo nad oes angen i’r cyhoedd ei ofni, ond y dylai’r heddlu.

“Wna i ddim stopio nes bydda i’n farw,” dywedodd yn ei lythyr.

Roedd wedi cael ei arestio nifer o weithiau yn y gorffennol, ac mae’n ymddangos ei fod wedi credu yn anghywir fod ei gyn cariad mewn perthynas â heddwas.

Saethu

Yr honiad yw bod Raoul Moat wedi anafu ei cyn cariad, Samantha Stobbart, 22, ac wedi lladd ei chariad Chris Brown, 29.

Roedd wedi eu saethu yn Gateshead ddydd Sadwrn, cyn saethu ac anafu heddwas, David Rathbone, 42, yn Newcastle ddydd Sul.

Roedd Raoul Moat wedi gadael y carchar ddydd Iau, ar ôl treulio cyfnod byr yno am ymosod.

Mae honiadau ei fod wedi bygwth anafu ei gyn cariad, a bod swyddogion carchar Durham wedi rhoi gwybod i Heddlu Northumberland am hyn.