Mae dau gefnogwr pêl-droed o’r Eidal wedi cael eu saethu’n farw mewn bar yn yr Almaen.
Yn ôl adroddiadau, cawsant eu saethu ddoe yn dilyn ffrae ynglŷn â record tîm yr Eidal a thîm yr Almaen ym Mhencampwriaethau Cwpan y Byd.
Roedd y dynion 47 a 49 oed wedi mynd i’r bar yn Hannover ar ôl gadael y bwyty Eidalaidd lle roedden nhw’n gweithio.
Honnir iddyn nhw fod mewn dadl â dyn Almaenaidd ynglŷn â llwyddiant yr Almaen, sydd wedi ennill y bencampwriaeth dair gwaith, a’r Eidal, sydd wedi’i ennill pedair gwaith.
Mae’r heddlu yn parhau i edrych am y dyn 42 oed sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am y saethu.