Mae cannoedd o bobol wedi bod yn dathlu pen-blwydd y Dalai Lama yn 75 oed mewn tref yng ngogledd India heddiw.
Digwyddodd y dathliadau yn Dharmsala, lle mae’r arweinydd Bwdhaidd wedi bod yn byw ers iddo ddianc o Dibet yn 1959, wedi i ymgais i ddisodli goruchafiaeth China fethu yno.
Mae’n cael ei ystyried fel arweinydd ysbrydol Tibet, ac mae wedi dod yn symbol o’r frwydr am annibyniaeth i’r wlad.
Cafodd cerddoriaeth ei chwarae wrth iddo gyrraedd ei deml i gwrdd â’i ddilynwyr, a rhoddwyd anrhegion traddodiadol iddo o sgarffiau gwyn.
Roedd y prif weinidog sydd hefyd wedi gorfod dianc o Dibet, Samdhong Rinpoche, hefyd yno. Fe wnaeth godi baner Tibet tra bod anthem y wlad yn cael ei channu.
Arestio yn Nepal
Mae adroddiadau fod heddlu yn Nepal, lle mae llawer o bobol o Dibet yn byw, wedi arestio 22 o bobol oedd yn mynd i ddathlu pen blwydd y Dalai Lama.
Mae’n debyg fod Llywodraeth Nepal wedi gwahardd protestio yn erbyn gwledydd sy’n cael eu hystyried yn rhai cyfeillgar – fel China – ond mae disgwyl i’r rhai a gafodd eu harestio gael eu rhyddhau yn fuan.