Mae’r gantores pop Cheryl Cole yn yr ysbyty yn dioddef o falaria. Cafwyd cadarnhad o hyn gan lefarydd ar ei rhan.
Roedd adroddiadau fod yr aelod o grŵp Girls Aloud, sy’n un o’r beirniaid ar sioe’r X Factor, wedi llewygu dros y penwythnos mewn sesiwn ffotograffiaeth.
Mae’n debyg ei bod newydd ddychwelyd o wyliau o Danzania, sydd ar arfordir dwyreiniol Affrica, un o’r gwledydd lle mae modd dal y salwch.
Mae malaria yn cael ei gario gan fosgitos, ac mae’n gallu achosi marwolaeth.
Roedd adroddiadau i ddechrau mai wedi gorflino oedd Cheryl Cole, sy’n 27 oed. Ond mae’n debyg fod symptomau gorflino a’r ffliw yn debyg i rai malaria – pen tost, cyhyrau yn brifo, teimlo’n wan a diffyg egni.