Mae adroddiad annibynnol heddiw yn argymell datganoli rhai pwerau trethu a benthyca i Lywodraeth Cynulliad Gymru.
Yn ogystal, mae adroddiad Comisiwn Holtham yn dangos sut y gellir sefydlu system dosrannu arian i Gymru sydd yn seiliedig ar anghenion, yn lle’r fformiwla gyfredol Barnett, sydd wedi ei seilio ar faint y boblogaeth.
Mi fyddai dilyn yr argymhellion yn gwneud y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn fwy atebol am wariant, yn ôl yr adroddiad.
Yn ogystal â dweud y dylai rhan o’r grant bloc i’r Cynulliad gael ei gyfnewid am arian gan drethdalwyr yng Nghymru, mae’r adroddiad yn dweud y dylid “cadarnhau gweithdrefn” i alluogi Senedd Llundain i roi grym i’r Cynulliad “i gyflwyno trethi newydd yng Nghymru.”
Ond nid oes angen sefydlu trysorlys ar wahân i Gymru meddai’r adroddiad, ond dylai’r cyfrifoldeb am gasglu pob treth ddatganoledig aros gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Gweinidog Cyllid Cymru yn croesawu’r adroddiad
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi croesawu’r adroddiad a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw bore ‘ma.
Fe wnaeth y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, Jane Hutt, ddiolch i’r comisiynwyr am eu “gwaith arbenigol,” a dweud y bydd angen ystyried eu hargymhellion “yn fanwl.”
Yr ail adroddiad
Hwn yw’r ail adroddiad gan Gomisiwn Holtham. Fe wnaeth y cyntaf alw am newid Fformiwla Barnett sy’n trosglwyddo arian o Lundain i weddill gwledydd Prydain.
Fe ddywedodd bod Cymru ar ei cholled o tua £300 miliwn bob blwyddyn ac y dylai’r fformiwla gydnabod anghenion.
Llywodraeth y Cynulliad wnaeth benodi’r Comisiwn.