Fe fydd mesur newydd yn cael ei gyflwyno fydd yn golygu y bydd gweision suful yn cael llai mewn taliadau diswyddo wrth golli eu gwaith.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, bod y penderfyniad wedi cael ei wneud “gydag amharodrwydd”, gan ychwanegu ei fod yn angenrheidiol oherwydd y sefyllfa economaidd.

Bydd y mesur yn cyfyngu costau taliadau diswyddo gorfodol i 12 mis gyda diswyddiadau gwirfoddol yn cael eu cyfyngu i 15 mis.

Debycach i’r sector breifat

Dywedodd Swyddfa’r Cabinet mai’r nod oedd sicrhau bod taliadau’n fwy tebyg i rai’r sector breifat.

Dywedodd Francis Maude ei fod yn awyddus i ddod i gytundeb gyda’r undebau llafur dros gynllun taliadau cynaliadwy, sy’n “addas i’r amser”, ond sydd hefyd yn rhoi gwarchodaeth i weision sifil ar gyflogau isaf.

O dan y cynllun presennol mae gan weithwyr sydd wedi cael eu cyflogi ers cyfnod hir hawl  i dros chwe blynedd o gyflog.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol wedi amcangyfri’ y bydd 600,000 o swyddi yn cael eu colli yn y sector cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf, wrth i adrannau’r llywodraeth greu cynlluniau i dorri hyd at 40% ar eu cyllidebau.