Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd miliynau o bunnoedd yn cael ei wario i wella darpariaeth band eang y wlad.
Mae’n “newyddion ardderchog” meddai llywydd yr FUW, Gareth Vaughan, “er ei bod yn dod wyth mlynedd ar ôl i’r undeb ddechrau ymgyrchu am well darpariaeth mewn ardaloedd gwledig.”
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe y bydd llai o grantiau yn cael ei roi i fusnesau, er mwyn i’r arian gael ei wario arian ar fand eang ac isadeiledd yr economi.
Maen nhw’n addo band eang i bob busnes yng Nghymru erbyn canol 2016, ac i bob cartref erbyn 2020. Fe fydd yna welliannau sylweddol mewn signalau ffonau symudol hefyd.
Does gan Gareth Vaughan ddim cysylltiad band eang yn ei gartref ger Drenewydd.
Ond er hyn meddai, mae gofyn cynyddol ar ffermwyr i gyflwyno gwybodaeth am eu stoc i’r awdurdodau ar y rhyngrwyd.
Ac mae hi wedi dod yn angenrheidiol iddyn nhw ddychwelyd ffurflenni treth ar werth dros y we.
“Dyw rhai swyddogion ddim yn deall pan rydych chi’n dweud fod gennych chi ddim cysylltiad,” meddai.