Mae rhwydwaith darlledu cyhoeddus Siapan wedi penderfynu peidio dangos y gystadleuaeth reslo sumo flynyddol yn fyw a hynny am y tro cyntaf mewn 57 mlynedd.

Gwnaed y penderfyniad yn sgil cwynion gan y cyhoedd am gyhuddiadau diweddar fod nifer o reslwyr wedi bod yn gamblo’n anghyfreithlon.

Credir fod arian gamblo anghyfreithlon yn mynd i goffrau’r yakuza, sef ‘gangsters’ Japan.

Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ddydd Sul ac yn para am 15 diwrnod. Mae’n un o chwe chystadleuaeth sy’n cael eu darlledu yn flynyddol ers 1953.

Mae Cymdeithas Sumo Japan wedi rhoi’r sac i un reslar ac un hyfforddwr eisoes.

Reslo sumo yw camp genedlaethol Japan.

Llun: reslar sumo (Gwifren PA)