Mae’n ymddangos fod cyflogwyr yn gosod gofynion llymach ar raddedigion sy’n chwilio am swyddi eleni.

Y rheswm am hyn yn ôl y Gymdeithas Recriwtio Graddedigion yw bod gan gyflogwyr lawer mwy o ddewis wrth i’r farchnad swyddi gyfyngu yn sgil y trafferthion economaidd.

Mae mwy o gyflogwyr ‘nawr yn gofyn am: ganlyniadau gradd uwch; am brofiad gwaith; am radd o brifysgolion penodol; ac am allu i ddangos galluoedd penodol.

Prinder swyddi

Mae arolwg y gymdeithas yn dweud fod cyflogwyr yn rhybuddio fod y nifer o swyddi ar gyfer graddedigion yn mynd i fod bron 7% yn llai eleni.

Mae hyn yn golygu fod, ar gyfartaledd, bron 69 o raddedigion yn ceisio am bob swydd sydd ar gael – 49 i bob swydd oedd y ffigwr flwyddyn ddiwethaf.

Mae’n ymddangos hefyd fod graddedigion y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi methu cael gwaith, hefyd yn trio am yr un swyddi gan gynyddu’r gystadleuaeth.

Daw’r adroddiad wythnos ar ôl i’r Uned Gyrfaoedd Addysg Uwch ragweld y bydd diweithdra ymysg graddedigion yn codi i fod yn uwch nag erioed os bydd Llywodraeth Prydain yn torri gwariant cyhoeddus o 25%, gan y bydd llai o swyddi ar gael yn y sector honno.