Mae paratoadau Caerdydd ar gyfer y tymor newydd mewn anrhefn llwyr ar ôl i’r Gynghrair Pêl Droed eu hatal rhag prynu chwaraewyr newydd tan iddyn nhw dalu eu dyled ddiweddaraf.

Dyma’r ail dro eleni i’r Adar Glas cael eu hatal rhag ychwanegu at eu carfan wrth iddyn nhw wynebu gorchymyn i ddirwyn y clwb i ben oherwydd dyledion o £1.3m.

Bydd Caerdydd yn ymddangos o flaen yr Uchel Lys ar 11 Awst os na fyddan nhw wedi talu’r dyledion i’r adran Cyllid a Thollau.

Gydag ychydig dros fis cyn i’r tymor newydd ddechrau, mae rheolwr y clwb, Dave Jones, yn gorfod gohirio ei gynlluniau i gryfhau’r garfan ar gyfer ymgyrch arall yn y Bencampwriaeth.

Mae prif weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins wedi dweud bod y clwb yn gobeithio talu’r ddyled yr wythnos yma.

Tra bod y clwb yn ceisio dod â threfn i sefyllfa ariannol fregus Caerdydd, fe fydd Dave Jones yn colli’r cyfle i gael chwaraewyr newydd wrth i glybiau eraill achub y blaen arno.

Mae ‘na adroddiadau bod swyddogion y clwb wedi gofyn i chwaraewyr ohirio cymryd eu bonwsau tan ddiwedd tymor nesaf.

Llun: Stadiwm Dinas Caerdydd