Mae Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd eu dyled diweddaraf yn cael ei dalu o fewn y dyddiau nesaf.

Mae yna adroddiadau eu bod nhw’n wynebu gorchymyn i ddirwyn y clwb i ben unwaith eto.

Bydd yr Adar Glas yn ymddangos o flaen y llys ar 11 Awst yn dilyn cais gan yr adran Cyllid a Thollau i ddirwyn y clwb i ben o ganlyniad i ddyled o tua £1.3m.

“R’yn ni’n mynd i dalu’r ddyled yn y dyddiau nesaf, ac fe fydd y gorchymyn dirwyn y clwb i ben yn cael ei ddiddymu,” meddai prif weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins.

“Yn ôl y drefn arferol, os nad yw’r ddyled yn cael ei dalu, mae hawl gan yr adran Cyllid a Thollau i wneud cais i ddirwyn y clwb i ben.

“Ond mae Caerdydd yn disgwyl talu’r ddyled yn yr wythnos nesaf, ac yn naturiol fe fydd y gorchymyn yn cael ei dynnu ‘nôl. Mae’n rhan o’r broses o sefydlogi’r clwb yn ariannol.”