Mae’n ymddangos bod arlywydd dros dro Gwlad Pwyl, Bronislaw Komorowski, wedi ennill etholiad i gael parhau yn y swydd.

Cynhaliwyd etholiad arlywyddol y wlad ddoe, ac mae’r canlyniadau cyntaf yn dangos fod Bronislaw Komorowski yn gyfforddus ar y blaen i’w wrthwynebydd, Jaroslaw Kaczynski.

Jaroslaw Kaczynski yw gefell y cyn arlywydd, Lech Kaczynski, a fu farw mewn damwain awyren ar 10 Ebrill yn Smolensk, Rwsia, ynghyd â 95 o bobol eraill.

Mae Jaroslaw Kaczynski wedi derbyn ei fod o wedi colli ond dydi Bronislaw Komorowski ddim wedi cyhoeddi mai ef sy’n fuddugol, am nad yw’r holl bleidleisiau wedi cael eu cyfri eto.

(Llun: Bronislaw yn codi llaw)