Mae arweinwyr undebau wedi codi “pryderon diogelwch mawr” ynglŷn â diogelwch rheilffyrdd Prydain pe bai toriadau i’r gyllideb trafnidiaeth yn mynd yn eu blaen.

Rhybuddiodd undeb trafnidiaeth RMT y byddai toriadau o hyd at 40% yn “dinistrio” y gwaith o gynnal a chadw rheilffyrdd y wlad.

Ymosododd yr undeb ar bolisïau’r Llywodraeth gan ddweud eu bod nhw wedi troi cefn ar drydanu’r rheilffyrdd ac y byddai pris teithio yn codi 10% dros y blynyddoedd nesaf.

“Pe bai yna doriadau o hyd at 40% yn y gyllideb trafnidiaeth, fe fyddai miloedd o staff yn colli eu swyddi ac mae nifer o’r rheini yn trin a chynnal gwasanaethau hanfodol,” meddai ysgrifennydd RMT, Bob Crow.

“Fe fyddai yna ganlyniadau arswydus i ddiogelwch teithwyr pe baen ni’n ceisio gwneud pethau am lai o arian.

“Bydd rhaid i’r cyhoedd dalu drwy eu trwynau i deithio ar gerbydau gorlawn ar reilffyrdd peryglus wrth i’r cwmnïau trenau preifat wneud elw anferth.”