Mae’n “anochel” y bydd gyrwyr yn gorfod talu fesul milltir yn y dyfodol, yn ôl adroddiad gan yr RAC heddiw.

Fe fyddai sustem “talu-wrth-fynd” yn debygol o fod yn amhoblogaidd yng nghefn gwlad Cymru, lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus cystal â lle mae pobol yn gyrru’n bellach i fynd i’r gwaith.

Yn hytrach na talu treth car fe fyddai yna sglodyn yn cael ei roi yn y car er mwyn mesur y pellter y mae’r car yn teithio, ac fe fyddai’n rhaid i berchennog y car dalu treth fesul milltir.

Nod y sustem fydd osgoi tagfeydd traffig, yn ôl cyfarwyddwr Sefydliad y RAC, yr Athro Stephen Glaister.

Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd gyda rhyddhau arolwg gan Ipsos Mori sy’n dangos fod 58% o yrwyr yn credu y byddai sustem o’r fath yn gwneud iddyn nhw feddwl cyn gyrru.

Dywedodd adroddiad Stephen Glaister y byddai cynnydd 33% mewn traffig erbyn 2025, ond llai o wario ar ffyrdd oherwydd y wasgfa ariannol.

Ond rhybuddiodd y byddai angen torri trethi ar danwydd a rhedeg ceir os oedd y cyhoedd yn mynd i dderbyn y dreth newydd.

“Mae ryw fath o sustem ‘talu wrth fynd’ yn anochel am nad oes yna ddewis arall sy’n mynd i ddatrys y broblem,” meddai Stephen Glaister.

“Mae’r arolwg yn dangos fod pobol yn gwrthwynebu treth ‘talu wrth fynd’ os ydyn nhw’n meddwl ei fod o’n dreth ychwanegol. Ond wrth esbonio’r manylion maen nhw’n sylweddoli ei fod o’n sustem deg.

“Os ydi gwleidyddion yn gwrthod gwneud penderfyniadau anodd dyna ni, ond y genhedlaeth nesaf fydd yn talu’r pris.”