Mae nifer y bobol sy’n gorfod ymweld â’r ysbyty yng Nghymru ar ôl yfed alcohol wedi ‘sefydlogi’ dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhybuddio fod y niferoedd yn parhau i fod yn uchel.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf bu’n rhaid i 54,000 o bobol yng Nghymru fynd i’r ysbyty ar ôl yfed alcohol yn 2008, sef tua’r un faint ag yn 2006 a 2007.

Ond dyw’r ffigurau diweddaraf ddim yn cynnwys pobol a gafodd eu trin a’u hanfon adref o adrannau damwain ac achosion brys.

Roedd nifer y bobol fu farw o ganlyniad i yfed alcohol wedi sefydlogi yn ystod yr un cyfnod.