Mae 24 o bobol wedi eu lladd a 19 wedi eu hanafu ar ôl tân ar fws yng nghanolbarth China.

Dywedodd gwasanaeth newyddion Xinhua China bod y tân wedi cynnau neithiwr yn ninas Wuxi, nid nepell o Shanghai.

Yn ôl papur newydd dyddiol Wuxi mae ymchwilwyr yn ceisio darganfod beth achosodd y tân ar y bws, oedd yn eiddo i gwmni preifat.

Roedd y bobol ar y bws yn gweithio mewn ffatri haearn.