Mae heddlu arfog yn dal ar drywydd dyn y maen nhw’n ei ddrwgdybio o saethu ei gyn gariad, lladd ei phartner ac yna saethu heddwas.

Rhyddhawyd Raoul Thomas Moat, 37, o’r carchar Dydd Iau ond deuddydd yn ddiweddarach saethodd Samantha Stobbart, 22, a’i chariad Chris Brown, 29.

Yna saethodd heddwas, David Rathbone, sy’n brwydro am ei fywyd yn yr ysbyty yn Newcastle ar hyn o bryd.

Ffoniodd y cyn fownswr , oedd yn credu bod Samantha Stobbart yn cael perthynas gyda heddwas, yr heddlu dydd Sul gan ddweud nad oedden nhw’n ei gymryd o ddifri.

Mae yna bryderon bod Raoul Thomas Moat eisiau gorfodi’r heddlu i’w saethu yn farw.

Honnodd hanner chwaer Samantha Stobbart, Kelly Stobbart, y byddai’n well gan Raoul Thomas Moat gael ei ladd na chael ei arestio eto.

Mae Samantha Stobbart, 22, mewn cyflwr bregus yn dilyn yr ymosodiad yn Birtley, Gateshead yn oriau man y bore dydd Sadwrn.

Cadarnhaodd Heddlu Northumbria eu bod nhw wedi galw heddweision arfog o heddluoedd eraill er mwyn helpu i chwilio am Raoul Thomas Moat.