Mae Prif Weinidog newydd Awstralia wedi addo gweithredu llymach er mwyn atal cychod llawn mewnfudwyr sy’n dod i’r wlad yn anghyfreithlon rhag aros yn y wlad.

Fe fydd Julia Gillard, sydd o’r Barri yn wreiddiol, yn cwrdd â’i Chabinet heddiw er mwyn trafod y naid mewn mewnfudwyr anghyfreithlon dan ei rhagflaenydd Kevin Rudd.

Mae’r wrthblaid yn beio penderfyniad Kevin Rudd i wanhau rheolau llym myn 2008 am y cynnydd.

Mae Awstralia wedi bod yn gyrchfan poblogaidd i ymofynwyr noddfa erioed , gyda’r rhan fwyaf yn dod o Afghanistan, Iran a Sri Lanka.

Mae canolfan cadw Christmas Island, adeiladwyd er mwyn dal 800 o fewnfudwyr anghyfreithlon, wedi bod yn llawn ers misoedd wrth i 2,000 o bobol gyrraedd ar gychod y flwyddyn hon yn unig.

Galwodd Julia Gillard am ddadl agored ynglŷn â phroblem mewnfudo anghyfreithlon.

“Dyw pobol sy’n dweud eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â diogelwch ein ffiniau ni ddim yn anoddefgar, dydyn nhw ddim yn hiliol,” meddai hi.

“Ond ar yr un pryd dyw pobol sy’n pryderu ynglŷn â chadw plant yn y ddalfa, ddim yn golygu nad ydyn nhw’n credu bod angen amddiffyn ein ffiniau ni.”

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Tony Abbott, bod Julia Gillard wedi chwarae rhan wrth greu polisi ei phlaid ar ddiogelu ffiniau’r wlad ac na fyddai hi’n newid pethau.

“Mae gen i neges syml i bobol Awstralia – os ydych chi eisiau atal y cychod rhaid i chi newid y llywodraeth,” meddai.

Dywedodd Tony Abbott y byddai’n talu ynysoedd cyfagos Nauru a Papua Guinea Newydd i gadw mewnfudwyr anghyfreithlon yn y ddalfa.