Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y bydd eu rheolwr Paulo Sousa yn gadael ar ôl dim ond un tymor.
Fe ddaeth y cyhoeddiad yn gynnar y bore yma ar wefan yr Elyrch ac fe fydd datganiad llawn yn cael ei wneud mewn cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach.
Fe fydd Sousa’n gadael am y tîm o Gaerlyr, Leicester City, sy’n debyg o fod yn cystadlu yn erbyn Abertawe am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Yn ôl y clwb, roedd y penderfyniad wedi dod “trwy gytundeb ar y ddwy ochr” ond roedd sïon wedi bod ers rhai dyddiau bod Sousa’n debyg o adael ac roedd wedi cael ei gysylltu gyda chlybiau eraill yn ystod y tymor diwetha’.
Yr ail dro
Dyma’r ail dro i Abertawe golli eu rheolwr ar ôl dim ond tymor llwyddiannus – yr haf diwetha’ fe adawodd Roberto Martinez am Wigan.
Roedd Sousa wedi ychwanegu at ei waith ef trwy fynd â’r Elyrch o fewn un lle i ddyrchafiad.
Un o’r ffefrynnau i gymryd eu lle yw cyn-chwaraewr Uruguay a Chelsea, Gus Poyet, sy’n rheoli Brighton and Hove Albion ar hyn o bryd.