Mae arweinydd undeb wedi rhybuddio y gallai’r toriadau gwario arwain at gyfnod o streiciau a gweithredu diwydiannol.

Dyma fyddai’r “gwrthdaro gwaetha’ ers blynyddoedd”, meddai’r Cymro Mark Serwotka, sy’n arwain 300,000 o weithwyr yn Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, y PCS.

Mae’r papurau newydd y bore yma’n awgrymu bod y Llywodraeth yn ceisio gweithredu i wneud streicio’n fwy anodd ac i’w gwneud yn rhatach i gael gwared ar swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Newid y gyfraith

Mae disgwyl i weinidogion gwrdd ag undebau heddiw i drafod telerau diswyddo gweithwyr, gyda’r awgrym y byddan nhw’n barod i newid y gyfraith i gael eu ffordd.

Roedd y Llywodraeth Lafur wedi ceisio torri’r taliadau diswyddo ond fe gawson nhw’u rhwystro gan y llysoedd.

Y Times sy’n dweud hefyd bod y Llywodraeth yn Llundain yn ystyried newid yn y gyfraith i’w gwneud hi’n fwy anodd i streicio.

Llun: Mark Serwotka (Llun – Undeb y PCS)