Does dim digon o staff arbenigol ân digon o lefydd ar gael yng Nghymru i drin babis sy’n cael eu geni’n rhy gynnar.
Dyna farn un o bwyllgorau’r Cynulliad sy’n dweud fod angen i’r Llywodraeth adolygu’r galw a’r ddarpariaeth.
Mae yna brinder arbenigwyr a phroblemau gyda recriwtio doctoriaid a nyrsys, meddai’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol.
Ar hyn o bryd, mae tua 3,800 o fabis pob blwyddyn yn mynd i unedau arbennig bob blwyddyn – mae 13 o’r rheiny yng Nghymru.
Mae’r galw’n cynyddu oherwydd mwy o enedigaethau, mwy o fabis rhy ysgafn a datblygiadau yn y triniaethau sydd ar gael.
‘Y dechrau gorau’
Yn ôl y pwyllgor, fe ddylai’r Llywodraeth gadw llygad ar faint o enedigaethau sy’n debyg o fod wrth iddyn nhw gynllunio faint o ddarpariaeth sydd yna.
“Mae pob babi’n haeddu’r dechrau gorau posib ac mae’r dyfodol y bydd babis rhy gynnar yn ei gael yn gallu cael effaith fawr ar weddill eu bywydau,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar.
Fe gafodd yr adroddiad ei groesawu gan elusen Bliss sy’n gweithio yn y maes – roedd yn dangos, medden nhw, bod y gwasanaeth wedi cael rhy ychydig o arian yn y gorffennol.
Mae’r Llywodraeth wedi addo ystyried yr adroddiad.
Llun: (Indrani GNU)