Fe fydd y drefn o roi grantiau mawr i fusnesau i agor ffatrïoedd neu brynu offer yn cael ei dileu.

Yn lle hynny, fe fydd y pwyslais ar wella’r isadeiledd – pethau fel gwasanaethau band llydan – ar fenthyciadau a chydweithio rhwng prifysgolion a busnes.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, heddiw ar ôl cyfnod o ymgynghori gyda busnesau trwy Gymru.

Ieuan Wyn Jones sy’n gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth yn y Llywodraeth ac roedd eisoes wedi awgrymu y byddai newid sylfaenol.

Rhai meysydd

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru system gymharol hael o grantiau diwydiannol ac yn y gorffennol fe ddaeth yn enwog am ddenu busnesau mawr tramor.

Erbyn hyn, mae’r llif hwnnw wedi arafu – er y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ffatri Panasonic ger Caerdydd.

Yn y dyfodol, mae’n bosib mai dim ond mewn rhai meysydd penodol y bydd grantiau ar gael – ble mae’r Llywodraeth yn credu bod gobaith am dwf.

Llun: Ieuan Wyn Jones – cyhoeddiad heddiw