Mae ymchwiliad iechyd a diogelwch wedi dechrau i farwolaeth y ferch bump oed a gafodd
ei lladd nos Sadwrn gan gatiau awtomatig.

Fe ddaeth yn amlwg bod y plentyn yn dod o deulu o Ddwyrain Ewrop, un o nifer sy’n byw yn yr ardal o dai teras traddodiadol o fewn tua phum munud i ganol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae cardiau a blodau wedi eu gadael ger y gatiau awtomatig sy’n arwain at faes parcio bychan ger bloc o fflatiau.

Mae’r gatiau’n cyrraedd hyd at ganol oedolyn ond mae’n ymddangos bod y plentyn wedi eu dal ganddyn nhw.

Dyw’r gatiau bellach ddim yn gweithio ac mae tagiau iechyd a diogelwch arnyn nhw. Mae’r heddlu’n casglu gwybodaeth ar gyfer y Crwner.

Wythnos yn ôl, fe gafodd merch fach ei lladd mewn amgylchiadau tebyg yn ardal Moss Side ym Manceinion.