Mae merch bump oed wedi marw ar ôl cael ei dal gan giât sy’n sleidio’n awtomatig.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gwasanaethau brys wedi ymateb i alwad yn Brook Court, Pen-y-Bont ar Ogwr, bnawn heddiw.
Cymerwyd y ferch i Ysbyty Tywysog Cymru ond fe fuodd hi farw yn ddiweddarach. Mae’r heddlu yn dal i ymchwilio i beth ddigwyddodd ac yn rhoi gwybod i deulu’r ferch.
Does dim manylion pellach eto.