Mae pob un o ddarpar arweinwyr y Blaid Lafur wedi dweud eu bod nhw’n cefnogi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad wrth gyfarfod yng Nghymru heddiw.

Roedd Andy Burnham, Ed Balls, Ed Miliband, David Miliband a Diane Abbott yn wynebu cwestiynau gan 300 o aelodau’r blaid mewn hustings yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Mae’n debygol y bydd refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad yn cael ei gynnal mis Mawrth nesaf.

Dywedodd Ed Balls na ddylai Llafur fod yn “canolbwyntio ar Lundain o hyd”.

“Rydw i’n credu y dylen ni wrando ar beth sydd gan bobol Cymru i’w ddweud ac rydw i ar ddeall bod pobol Cymru a Phlaid Lafur Cymru yn credu y dylen nhw gael mwy o bwerau,” meddai.

Dywedodd David Miliband, y ffefryn i ennill yr ornest a fydd yn dod i ben yng Nghynhadledd y Blaid Lafur ym mis Medi, ei fod o’n “ddatganolwr ac unoliaethwr cryf”.

Ychwanegodd ei fod o eisiau cryfhau llais Cymru a’r Alban yn y Blaid Lafur, ac fe ychwanegodd ei fod o’n “wallgo’ nad ydi Carwyn Jones yn aelod o fwrdd gweithredol y Blaid Lafur”.

Dywedodd ei frawd Ed Miliband ei fod o’n credu bod y wlad gyfan wedi elwa o ddatganoli, a bod Cymru wedi “arwain y ffordd” ar rai pethau fel gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus a chreu comisiynwyr ar gyfer yr henoed a phlant.

Awgrymodd Andy Burnham bod llywodraeth Cymru yn mynd i amddiffyn y wlad rhag y Ceidwadwyr yn San Steffan.

“Nawr yw’r adeg pan fydd datganoli wir yn dangos ei werth i Gymru pan mae gyda ni Lywodraeth yn San Steffan sy’n mynd i dorri gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.