Wrth i Gwpan y Byd De Affrica ddirwyn i ben mae yna bryder bod angen i Frasil siapio’u stwmps os ydyn nhw am gynnal y gystadleuaeth mewn pedair blynedd.

Fe fydd yna seremoni i drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros gynnal Cwpan y Byd o De Affrica i Frasil cyn y ffeinal dydd Sul nesaf.

Ond mae yna bryder y tu ôl i’r llenni wrth i ysgrifennydd FIFA Jerome Valcke ddweud bod y diffyg paratoadau yn y wlad yn “anhygoel”.

Mae’n debyg nad ydyn nhw prin wedi dechrau ar y gwaith, tair blynedd ar ôl ennill yr hawl i gynnal Cwpan y Byd 2014.

Does yna ddim hyd yn oed cadarnhad eto ynglŷn â pha ddinasoedd sy’n mynd i fod yn cynnal gemau.

“Dydi Brasil ddim ar y trywydd cywir,” meddai Jerome Valcke werth wefan GloboEsporte. “Mae’n rhaid gwneud hyn er mwyn De America, nid Brasil yn unig.

“Rydw i wedi derbyn adroddiadau ynglŷn â’r stadiwms a dyw pethau ddim yn edrych yn dda o gwbl. Mae’n anhygoel eu bod nhw ar ei hol hi’n barod.

“Mae sawl terfyn amser wedi mynd a dod a does dim byd wedi digwydd.”

Mae disgwyl y bydd FIFA yn dechrau rhoi mwy o bwysau ar Frasil i frysio unwaith y mae’r twrnamaint yn Ne Affrica ar ben.