Fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn gadael y glymblaid pe baen nhw’n colli’r refferendwm ar ddiwygio’r sustem bleidleisio, yn ôl cyn arweinydd y blaid.

Dywedodd yr Arglwydd Paddy Ashdown ei fod o’n “wallgo’” awgrymu y byddai ei blaid yn ceisio chwalu’r llywodraeth os nad oedd y wlad yn pleidleisio o blaid yn y refferendwm.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau newid y sustem bleidleisio cyntaf heibio’r postyn sy’n cael ei ddefnyddio mewn etholiadau cyffredinol i sustem pleidlais amgen.

Y dybiaeth yw y byddai’r Ceidwadwyr yn colli seddi a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn eu hennill nhw yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf pe bai’r sustem pleidlais amgen yn cael ei ddefnyddio.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron eisoes wedi dweud y bydd o’n ymgyrchu yn erbyn pleidlais ‘ie’ yn y refferendwm, sy’n debygol o gael ei gynnal ar 5 Mai.

Dywedodd Paddy Ashdown y byddai’n rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol dderbyn y canlyniad.

“Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim am daflu eu teganau allan o’r pram am nad ydi’r cyhoeddi wedi rhoi’r ateb iawn iddyn nhw,” meddai ar Sky News.

Dywedodd y byddai’n well gan y Democratiaid Rhyddfrydol sustem gynrychiolaeth gyfrannol na sustem bleidlais amgen, ond bod yn rhaid cyfaddawdu er lles y glymblaid.