Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi awgrymu fod angen torri costau’r diogelwch sy’n cael ei ddarparu ar gyfer cyn Brif Weinidogion.

Daw hynny ar ôl i bapur newydd y Mail of Sunday ddatgelu heddiw bod y gwarchodwyr sy’n edrych ar ôl y cyn Brif Weinidog Tony Blair yn costio £250,000 y flwyddyn i’r trethdalwr.

Mae Tony Blair yn gweithio fel cennad y Cenhedloedd Unedig yn y Dwyrain Canol, ond mae o’n cael ei ddiogelu gan warchodwyr Heddlu’r Met.

“Mae’n amlwg bod angen diogelu cyn Brif Weinidogion, pwy bynnag ydyn nhw,” meddai William Hague wrth Sky News.

“Ond mae’n rhaid sicrhau bod yr arian yn cael ei wario’n effeithiol, ac nad ydi o’n costio mwy i’r trethdalwyr nag sy’n angenrheidiol.”

Yn ôl ymchwiliad y Mail on Sunday roedd gweithwyr diogelwch Tony Blair yn aros mewn gwestai pum seren.

“Efallai y dylai cyn brif weinidogion ac arlywyddion fod yn canolbwyntio ar elusennau fel y gwnaeth Jimmy Carter, yn hytrach na cheisio gwneud eu hunain yn gyfoethog,” meddai’r Democrat Rhyddfrydol Syr Ken Macdonald ar The Andrew Marr Show.

“Mae yna deimlad bod beth mae Tony Blair yn ei wneud braidd yn anurddasol.”