Mae dyn wedi ei gyhuddo o ddynladdiad ar ôl gwrthdrawiad cwch ger cerflun enwog Liberty yn Efrog Newydd.

Fe fu farw un dyn oedd ar fin priodi ac fe anafwyd dau arall yn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Heddlu Efrog Newydd fod Richard Aquilone, 29, o Jersey City, yn ei gwch 30 troedfedd o hyd gyda’i wraig a’i blant pan darodd gwch llai.

Roedd Jijo Puthuvamkunnath, 30, o Bergenfield, a dau o’i ffrindiau yn y cwch arall 17 troedfedd o hyd, oedd wedi ei angori ger Ynys Liberty.

Cymerwyd Jijo Puthuvamkunnath i Ysbyty Jersey City ond fe fu farw o anafiadau i’w ben. Cafodd ei gyfeillion eu trin am fan anafiadau.

Doedd neb ar y cwch mwy wedi eu hanafu ond cafodd Richard Aquilone ei arestio a’i gyhuddo o ddynladdiad, gyrru cerbyd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau a pheryglu iechyd plentyn.

Roedd Jijo Puthuvamkunnath ar fin priodi ei gariad, Sissy Chacko, ar 28 Awst.