Fe fydd mwy o bobol yn byw yn ninasoedd a threfi China nag yng nghefn gwlad am y tro cyntaf erioed o fewn pum mlynedd.

Yn ôl papur newydd swyddogol y wladwriaeth mae disgwyl i 700 miliwn o bobol fyw mewn tref neu ddinas erbyn 2015.

Dywedodd Li Bin, pennaeth asiantaeth poblogaeth y wlad, wrth bapur China Daily y bydd poblogaeth y wlad wedi cyrraedd 1.4 biliwn erbyn hynny.

Er eu bod nhw’n cyfyngu cyplau i un plentyn yr un, mae poblogaeth China wedi dyblu ers y 60au.

Mae’r boblogaeth wedi cynyddu’r aruthrol dros y degawdau diwethaf wrth i bobol ifanc adael cefn gwlad er mwyn chwilio am swyddi mewn dinasoedd.

Er gwaetha’r twf poblogaeth mae’r polisi o un plentyn i bob cwpwl yn awgrymu y bydd yna fwy o bobol wedi ymddeol nag sydd yna o weithwyr i’w cefnogi nhw cyn hir.

Mae200 miliwn o bobol China eisoes dros 60 oed.