Fe allai bomiwr Lockerbie fyw am 10 neu 20 mlynedd arall, yn ôl arbenigwr ar ganser ddywedodd y byddai’n marw o fewn 3 mis y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd yr Athro Karol Sikora wrth bapur newydd y Sunday Times “fod ganddo gywilydd” bod Ali Mohmet al-Megrahi wedi byw cyhyd.
Penderfynodd Llywodraeth yr Alban ryddhau Ali Mohmet al-Megrahi ym mis Awst y llynedd am ei fod o’n dioddef o ganser marwol.
Roedd Karol Sikora wedi dweud wrthyn nhw y byddai’n byw am dair mis.
Cafwyd Ali Mohmet al-Megrahi yn euog o ffrwydro awyren dros dref Lockerbie yn 1988, gan ladd 270 o bobol.
“Mae yna siawns y bydd o’n byw am 10 mlynedd, 20 mlynedd… ond mae o’n anghyffredin iawn,” meddai Karol Sikora.
“Ond roeddwn i’n teimlo ei fod o’n bosib cyfiawnhau dweud mai dim ond am dair mis y byddai’n byw. Mae gen i gywilydd ei fod o wedi dal i fynd am gymaint o amser.
“Roedd yna siawns 50 y cant y byddai’n byw am dair mis, ond siawns 50 y cant y byddai’n dal i fynd am gyfnod hirach.”