Roedd canol tref Wrecsam yn fwrlwm o weithgaredd ddoe wrth i Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011 gael ei chynnal ar dir Llwyn Isaf ger Neuadd y Dref.

Roedd cannoedd o bobl leol yn rhan o’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, a gynhelir yn nhref Wrecsam o 30 Gorffennaf – 6 Awst y flwyddyn nesaf.

Ymunodd Gorsedd y Beirdd, plant o ysgolion lleol ac arweinwyr cymunedol yn yr orymdaith drwy strydoedd y dref.

Roedd yna hefyd lwyfan perfformio prysur a stondinau, yn ogsytal a thrampolinau, wal ddringo, a phaentio wynebau ar gyfer y plant.

Uwchafbwynt y diwrnod oedd seremoni’r Cyhoeddi, a gorseddu’n swyddogol yr Archdderwydd newydd, Jim Parc Nest.

Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam a’r Fro oedd ei gyfrifoldeb gyntaf fel Archdderwydd, ac fe’i orseddwyd gan ei ddirprwy, Selwyn Iolen.

Byrdwn y seremoni draddodiadol yw cyhoeddi bod yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal ymhen o leiaf blwyddyn a diwrnod, a dyma phryd hefyd y cyhoeddir y rhestr testunau am y flwyddyn, pan y’i cyflwynir gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol i’r Archdderwydd.

‘Cefnogaeth’

“Cawsom Gyhoeddi arbennig o lwyddiannus yn nhref Wrecsam, gyda chroeso brwd, cydweithio hapus, a thywydd bendigedig,” meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.

“Braf oedd gweld cynifer o bob l leol wedi dod atom i ddangos eu cefnogaeth i’r Eisteddfod pan y daw i’r ardal y flwyddyn n esaf.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth, i’r pwyllgorau lleol am eu holl waith a’u hymroddiad, a chyda’r rhestr testunau wedi’i chyhoeddi, ddymuno’n dda i bawb sy’n meddwl am gystadlu, gan obeithio y bydd y testunau’n apelio at nifer fawr o feirdd, llenorion a chantorion.

“Bydd y flwyddyn nesaf yn arbennig i ni fel Eisteddfod, gan y byddwn yn dathlu 150 o flynyddoedd ar ein ffurf bresennol, a gwn bod ardal Wrecsam yn gyffrous ac yn edrych ymlaen i gynnal yr Eisteddfod bwysig hon yn eu hardal nhw yng ngogledd ddwyrain Cymru.

“Cyn hynny, mae’n golygon yn troi’n ôl i’r de ddwyrain ac i Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, lle cynhelir yr Eisteddfod ymhen pedair wythnos. Rydym yn galw ar bobl o bob cwr o Gymru i ddod i’n cefnogi eleni yng Nghlyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst.”

Mae’r Ŵyl yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn.