Mae’r Trysorlys wedi gofyn i’r rhan fwyaf o adrannau’r Llywodraeth awgrymu sut allen nhw dorri 40% o’u gwariant, er nad ydi o’n debygol y bydd rhaid iddyn nhw wneud hynny mewn gwirionedd.
Mae’r Canghellor George Osborne eisoes wedi dweud y bydd rhaid i adrannau dorri 25% o’u gwariant ar gyfartaledd.
Ond efallai y bydd rhai i rai adrannau dorri mwy na’i gilydd a nod yr arolwg ydi gweld pa wasanaethau fydd yn dioddef yn fwy na’i gilydd o ganlyniad i dorri gwariant mewn gwahanol adrannau.
Mae’n rhaid i’r adrannau Addysg ac Amddiffyn awgrymu sut allen nhw dorri rhwng 10% a 20% o’u gwariant.
Mae’r Blaid Lafur wedi dweud y bydd yr arolwg yn arwain at ofnau ynglŷn â gwasanaeth rheng flaen, ac mae undebau’r sector gyhoeddus wedi rhybuddio y bydden nhw’n streicio petai’r toriadau 40% yn cael eu rhoi ar waith.
Fe fydd y penderfyniad terfynol ynglŷn â pha adrannau sy’n gorfod torri faint yn cael ei gyhoeddi ar 20 Hydref.
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol eisoes wedi rhagweld y byddai 610,000 o weithwyr yn y sector gyhoeddus yn colli eu swyddi erbyn 2016 petai’r toriadau 25% yn cael eu gwireddu.